Beth yw ystyr bywyd?


Cwestiwn: Beth yw ystyr bywyd?

Ateb:
Beth yw ystyr bywyd? Sut y gellir dod o hyd i bwrpas, cyflawniad, a boddhad mewn bywyd? Sut y gellir cyflawni rhywbeth o arwyddocâd parhaol? Ceir llawer o bobl nad ydynt erioed wedi rhoi’r gorau i ystyried y cwestiynau pwysig hyn. Maent yn edrych yn ôl flynyddoedd yn ddiweddarach ac yn meddwl tybed pam mae eu perthnasoedd wedi chwalu a pham eu bod nhw’n teimlo mor wag, er efallai eu bod nhw wedi cyflawni’r hyn yr oeddent yn bwriadu ei gyflawni. Gofynnwyd i athletwr a oedd wedi cyrraedd uchafbwynt ei gamp beth oedd yn dymuno y byddai rhywun wedi dweud wrtho pan yr oedd yn dechrau chwarae ei gamp am y tro cyntaf. Atebodd yntau, “Rwy’n dymuno y byddai rhywun wedi dweud wrthyf fi pan fyddi di’n cyrraedd y brig, nad oes dim byd yno.” Ceir llawer o amcanion nad ydynt yn datgelu eu gwacter nes bod blynyddoedd wedi eu gwastraffu yn eu canlyn.

Yn ein diwylliant dyneiddiol, mae pobl yn colli golwg ar ystyr bywyd. Maen nhw’n mynd ar drywydd llawer o bethau, gan feddwl y byddant yn canfod ystyr a phwrpas ynddynt. Mae rhai o’r gweithgareddau hyn yn cynnwys llwyddiant busnes, cyfoeth, perthnasoedd da, rhyw, adloniant, a gwneud lles i bobl eraill. Mae pobl wedi tystio, er eu bod nhw’n cyflawni eu hamcanion cyfoeth, perthnasoedd, a phleser, bod gwagle dwfn y tu mewn iddynt o hyd, sef teimlad o wacter nad oedd dim yn ei lenwi.

Fe arferai awdur llyfr y Pregethwr edrych am ystyr bywyd mewn llawer o weithgareddau ofer. Disgrifia ef y teimlad o wacter a deimlai: “Gwagedd llwyr, gwagedd llwyr yw’r cyfan” (Pregethwr 1:2). Roedd y canlynol ar gael i’r Brenin Solomon, awdur Pregethwr: cyfoeth y tu hwnt i fesur, doethineb y tu hwnt i unrhyw ddyn o’i amser ef neu ein hamser ninnau, cannoedd o fenywod, palasau a gerddi a oedd yn destun cenfigen i deyrnasoedd, y bwyd a’r gwin gorau, a phob math o adloniant. Dywedodd ar un adeg ei fod yn canlyn unrhyw beth a chwenychai ei lygaid (Pregethwr 2:10). Ac eto fe grynodd fod bywyd “dan yr haul” — sef bywyd sy’n cael ei fyw fel mai’r cyfan sydd i fywyd yw’r hyn y gallwn ei weld gyda’n llygaid a’i brofi gyda’n synhwyrau — yn ddiystyr. Beth sy’n esbonio’r gwacter hwn? Creodd Duw ni ar gyfer rhywbeth y tu hwnt i’r hyn y gallwn ei brofi yn y presennol. Dywedodd Solomon am Dduw, “a hefyd rhoddodd dragwyddoldeb yng nghalonnau pobl” (Pregethwr 3:11). Yn ein calonnau, rydym ni’n ymwybodol nad y presennol yw’r cyfan.

Yn llyfr Genesis, rydym ni’n dod o hyd i gliw o ran ystyr bywyd yn y ffaith bod Duw wedi creu y ddynolryw ar ei ddelw ei hun (Genesis 1:26). Mae hyn yn golygu ein bod ni’n debycach i Dduw nag unrhyw beth arall. Gwelwn hefyd, cyn i’r ddynolryw ddisgyn a chyn i felltith pechod ddod ar y ddaear, fod y canlynol yn wir: 1) Gwnaeth ddyn yn greadur cymdeithasol (Genesis 2:18–25); 2) rhoddodd Duw waith i ddyn (Genesis 2:15); 3) roedd gan Dduw gymrodoriaeth â dyn (Genesis 3:8); a 4) rhoddodd Duw awdurdod i ddyn dros y ddaear (Genesis 1:26). Ceir arwyddocâd i’r ffeithiau hyn mewn cysylltiad ag ystyr bywyd. Roedd Duw yn bwriadu i’r ddynoliaeth gael boddhad mewn bywyd, ond effeithiwyd ar ein cyflwr yn andwyol (yn enwedig o ran ein cymrodoriaeth gyda Duw) gan y cwymp i bechod a’r felltith ganlyniadol ar y ddaear (Genesis 3).

Dengys llyfr Datguddiad bod Duw yn dymuno dychwelyd ystyr bywyd i ni. Mae Duw’n datgelu y bydd yn dinistrio’r greadigaeth bresennol ac yn creu nefoedd newydd a daear newydd. Bryd hynny, bydd yn adfer cymrodoriaeth lawn â’r ddynolryw a waredwyd, a bydd y rhai nas gwaredwyd yn cael eu barnu yn annheilwng a byddant yn cael eu bwrw i’r llyn tân a brwmstan (Datguddiad 20:11–15). Bydd melltith pechod yn cael ei dileu; ni fydd pechod, tristwch, salwch, marwolaeth, na phoen mwyach (Datguddiad 21:4). Bydd Duw yn byw gyda’r ddynolryw, a nhw fydd ei blant (Datguddiad 21:7). Gan hynny, rydym ni’n dod yn ôl at y man cychwyn: Creodd Duw ni i gael cymrodoriaeth gydag ef; pechodd dyn, gan dorri’r gymrodoriaeth honno; mae Duw yn adfer y gymrodoriaeth honno’n llawn yn y cyflwr tragwyddol. Byddai mynd trwy fywyd gan gyflawni popeth yr oeddem ni’n bwriadu ei gyflawni, dim ond i farw gan fod wedi ein gwahanu oddi wrth Dduw am dragwyddoldeb yn waeth nag ofer! Ond yn ogystal â gwneud dedwyddwch tragwyddol yn bosibl (Luc 23:43), mae Duw hefyd wedi gwneud bywyd ar y ddaear yn foddhaol ac yn ystyrlon. Sut y gellir sicrhau y dedwyddwch tragwyddol hwn a “nefoedd ar y ddaear”?

Adfer ystyr bywyd trwy Iesu Grist

Canfyddir ystyr go iawn bywyd, yn awr ac yn dragwyddol, drwy adfer ein perthynas â Duw. Nid yw’r adferiad hwn ond yn bosibl trwy Fab Duw, Iesu Grist, sy’n ein cymodi ni â Duw (Rhufeiniaid 5:10; Actau 4:12; Ioan 1:12; 14:6). Enillir iachawdwriaeth a bywyd tragwyddol pan ein bod ni’n ymddiried yn Iesu Grist i fod yn Waredwr i ni. Pan dderbynnir iachawdwriaeth trwy ras trwy ffydd, mae Iesu Grist yn ein gwneud ni’n greadigaeth newydd, ac rydym ni’n dechrau ar y daith gynyddol o dyfu yn agosach ato ac o ddysgu i ddibynnu arno.

Mae Duw yn dymuno i ni wybod beth yw ystyr bywyd. Dywedodd Iesu, “Yr wyf wedi dod er mwyn i ddynion gael bywyd, a’i gael yn ei holl gyflawnder” (Ioan 10:10). Yn rhesymegol, mae bywyd “yn ei holl gyflawnder” yn un sy’n ystyrlon ac yn amddifad o grwydro dibwrpas.

Mae ystyr bywyd yn gwbl gysylltiedig â gogoniant Duw. Wrth alw ei etholedigion, dywed Duw, “pob un sydd â’m henw arno, ac a greais i’m gogoniant, ac a luniais, ac a wneuthum” (Eseia 43:7). Dyna pam yr ydym wedi ein gwneud er gogoniant Duw. Unrhyw bryd pan fyddwn yn rhoi gogoniant ein hunain yn lle gogoniant Duw, rydym ni’n colli ystyr bywyd. “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes a’m canlyn i. Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe’i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i, fe’i caiff” (Mathew 16:24–25). “Ymhyfryda yn yr ARGLWYDD, a rhydd iti ddeisyfiad dy galon” (Salmau 37:4).

English
Mynd yn ôl i'r hafan Gymraeg
Beth yw ystyr bywyd?