settings icon
share icon
Cwestiwn

Oes gennych chi fywyd tragwyddol?

Ateb


Mae’r Beibl yn gosod llwybr clir i fywyd tragwyddol. Yn gyntaf, mae’n rhaid i ni gydnabod ein bod ni wedi pechu yn erbyn Duw. "Am fod pawb wedi pechu. Does neb wedi gallu cyrraedd safon berffaith Duw ar eu pennau eu hunain." (Rhufeiniaid 3:23). Rydym wedi gwneud pethau nad ydynt yn plesio Duw, sydd yn golygu ein bod yn haeddu cael ein cosbi. Gan fod ein holl bechodau yn erbyn Duw tragwyddol, yr unig gosb ddigonol yw cosb dragwyddol. "Marwolaeth ydy’r cyflog mae pechod yn ei dalu, ond mae Duw yn rhoi bywyd tragwyddol yn rhad ac am ddim i chi, oherwydd beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia." (Rhufeiniaid 6:23).

Serch hynny, ni wnaeth Iesu Grist bechodi (1 Pedr 2:22). Ganwyd Iesu, mab Duw mewn ffurf dyn (Ioan 1:1,14) ac fe fu farw dros ein pechodau. "Ond dangosodd Duw i ni gymaint maen ein caru ni trwy i'r Meseia farw droson ni pan roedden ni’n dal i bechu yn ei erbyn!" (Rhufeiniaid 5:8). Bu farw Iesu Grist ar y groes drosom ni (Ioan 19:31-42), cosb yr ydym ni yn ei haeddi. (2 Corinthiaid 5:21). Fe atgyfododd ar y trydydd dydd (1 Corinthiaid 15:1-4), a phrofi ei fyddugoliaeth dros farwolaeth. "Mae wedi bod mor drugarog aton ni. Mae’n ddechrau cwbl newydd! Dyn ni wedi cael ein geni unwaith eto! Ac am ei fod wedi codi Iesu Grist yn ôl yn fyw dyn ni’n edrych ymlaen yn hyderus i’r dyfodol." (1 Pedr 1:3).

Mae’n rhaid i ni newid ein meddyliau am Iesu Grist drwy roi ffydd ynddo. Mae’n rhaid i ni ystyried pwy oedd Crist, yr hyn a wnaeth, a phaham er mwyn cael maddeuant (Actau 3:19). Os rhoddwn ni ein ffydd ynddo, gan gredu yn ei farwolaeth ar y groes dros ein pechodau, mi gewn ni faddeuant a derbyn yr addewid o fywyd tragwyddol yn y nefoedd. "Ydy, mae Duw wedi caru’r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy'n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol." (Ioan 3:16). "Os wnei di gyffesu ‘â’th wefusau’ “Iesu ydy'r Arglwydd”, a chredu ‘yn dy galon’ fod Duw wedi ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, cei dy achub." (Rhufeiniaid 10:9). Ffydd yng ngweithred yr Iesu ar y groes yw’r unig lwybr i fywyd tragwyddol! "Haelioni Duw ydy’r unig beth sy’n eich achub chi wrth i chi gredu. Dych chi wedi gwneud dim i haeddu’r peth. Anrheg Duw ydy e! Dych chi'n gallu gwneud dim i’w ennill, felly does dim lle i unrhyw un frolio." (Effesiaid 2:8-9).

Os yr ydych chi am dderbyn Iesu Grist fel eich gwaredwr, dyma i chi weddi seml. Cofiwch, ni fydd adrodd y weddi hon, nac unrhyw weddi yn eich gwaredi. Dim ond trwy rhoi ffydd yng Nghrist y cewch waredigaeth. Mae’r weddi hon yn ffordd seml i ddatgan i Dduw eich ffydd ynddo ac i ddiolch iddo am gael eich gwaredi. "O Dduw, Gwn fy mod yn bechadur yn dy erbyn, a fy mod yn haeddu cael fy nghosbi. Ond fe gymerodd Iesu Grist y gosb yr wyf fi yn ei haeddu fel y caf faddeuant. Rhoddaf fy ffydd ynot ti am waredigaeth. Diolch i ti am dy ras rhyfeddol a dy faddeuant – sef bywyd tragwyddol. Amen!”

Ydych chi wedi dewis Crist o ganlyniad i’r hyn a ddarllenoch yma? Os mai “ydw” yw eich ateb, cliciwch ar y botwm isod – “Rydw i wedi derbyn Crist heddiw”.

English



Mynd yn ôl i'r hafan Gymraeg

Oes gennych chi fywyd tragwyddol?
© Copyright Got Questions Ministries