Cwestiwn
A ydych wedi derbyn maddeuant Duw? Sut allaf fi dderbyn maddeuant Duw?
Ateb
Mae Actau 13:38 yn datgan, “Felly, frodyr a chwiorydd, dw i am i chi ddeall fod maddeuant pechodau ar gael i chi o achos beth wnaeth Iesu.”
Beth yw maddeuant? Paham y mae ei angen arfnaf?
Mae’r gair “maddeuant” yn golygu troi tudalen newydd, pardynu, dirymu dyled. Pan yr ydym yn gwneud cam i rywun, ceisiwn gael ein maddau fel y gellir adfer y berthynas. Nid ydym yn maddau gan fod rhywun yn haedddu maddeuant. Nid yw neb yn haeddu maddeuant. Mae maddeuant yn weithred o gariad, trugaredd a gras. Mae maddeuant yn ddewis i beidio â magu dig, er gwaethaf yr hyn a wnaed.
Dywed y Beibl ein bod angen maddeuant Duw. Rydym ni oll yn bechaduriaid. Mae Pregethwyr 7:20 yn datgan, “Canys nid oes dyn cyfiawn ar y ddaear a wna ddaioni, ac ni phecha.” Yn ôl 1 Ioan 1:8, “Os dyn ni’n honni ein bod ni heb bechod, dyn ni’n twyllo'n hunain a dydy'r gwir ddim ynon ni.” Mae pob pechod yn weithred yn erbyn Duw. (Salm 51:4). Oherwydd hyn, mae angen maddeuant Duw arhom. Os na chawn ein maddau, fe gawn ein cosbi’n dragwyddol. (Mathew 25:46; Ioan 3:36).
Sut y caf dderbyn maddeuant?
Dylwn ddiolch fod Duw yn garedig a’n trugarog – mae’n awyddus iawn i faddau ein pechodau! 2 Pedr 3:9 tells us, “…Bod yn amyneddgar gyda chi mae e. Does ganddo ddim eisiau i unrhyw un fynd i ddistryw. Mae e am roi cyfle i bawb newid eu ffyrdd.” Mae Duw eisiau maddau ein pechodau, felly fe wnaeth drefnu i ni gael ffordd o gael ein maddau.
Yr unig gosb am ein pechodau yw marwolaeth. Yn ôl hanner gyntaf Rhufeiniaid 6:23, “Marwolaeth ydy’r cyflog mae pechod yn ei dalu…” Marwolaeth tragwyddol yw’r hyn yr ydym yn haeddu am ein pechodau. Fe ddaeth Duw i’r byn yn ffurf dyn – sef Iesu Grist (Ioan 1:1,14). Fe fu farw yr Iesu ar y groes, cymeryd y gosb yr ydym ni yn ei haeddu - marwolaeth. 2 Corinthians 5:21 teaches us, “Wnaeth Iesu ddim pechu, ond dyma Duw yn ei wneud e yn offrwm dros bechod ar ein rhan ni. Dyn ni’n gallu byw mewn perthynas iawn gyda Duw drwy ein perthynas gydag e.” Bu farw’r Iesu ar y groes, cymeryd y gosb yr ydym ni yn ei haeddu! Fel Duw, fe greodd marwolaeth yr Iesu drefn i faddau pechodau’r byd gyfan. Mae 1 Ioan 2:2 yn datgan, “Fe ydy’r aberth wnaeth iawn am ein pechodau ni, ac nid dim ond ein pechodau ni, ond pechodau'r byd i gyd.” Atgyfododd yr Iesu, a datgan ei fuddugoliaeth yn erbyn pechod a marwolaeth (1 Corinthiaid 15:1-28). Gogoniant i Dduw, trwy farwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist, mae ail hanner Rhufeiniaid 6:23 yn wir, “…Duw yn rhoi bywyd tragwyddol yn rhad ac am ddim i chi, oherwydd beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia.”
A ydych chi am gael eich faddau am eich pechodau? A ydych yn teimlo’n euog, teimlad sydd gyda chi wastad? Fe gewch faddeuant am eich pechodau dim ond i chi roi eich ffydd yn Iesu Grist, eich gwaredwr. Dywed Effesiaid 1:7, “Cawson ni’n gollwng yn rhydd am fod marwolaeth ei fab ar y groes wedi gwneud maddeuant ein pechodau yn bosib. Dyna lle dyn ni’n gweld mor anhygoel o hael mae Duw wedi bod tuag aton ni!” Fe dalodd yr Iesu ein dyled, fel y cawn ni ein maddau. Yr unig beth sy’n rhaid i chi ei wneud yw gofyn i Dduw i’ch maddau drwy’r Iesu, a chredu bod yr Iesu wedi marw fel y cewch chi faddeuant – ac thrwy wneud hyn fe roiff Duw ei faddeuant! Mae Ioan 3:16-17 yn cynnwys y neges hyfryd hyn, “Ydy, mae Duw wedi caru’r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy'n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol. Oherwydd anfonodd Duw ei Fab i achub y byd, dim i gondemnio’r byd.”
Mae derbyn maddeuant Duw mor rhwydd a hyn?
Ydy, mae hi mor rhwydd a hynny! Nid yw’n bosib haeddu maddeuant Duw. Nid oes modd talu am faddeuant Duw. Dim ond trwy ei dderbyn drwy ffydd, trwy ras a thrugaredd yr Iesu. Os yr ydych am dderbyn yr Iesu fel eich Gwaredwr a derbyn maddeuant Duw, dyma weddi i chi. Cofiwch, ni fydd adrodd y weddi hon, nac unrhyw weddi yn eich gwaredi. Dim ond trwy rhoi ffydd yng Nghrist y cewch waredigaeth. Mae’r weddi hon yn ffordd seml i ddatgan i Dduw eich ffydd ynddo ac i ddiolch iddo am gael eich gwaredi. "O Dduw, Gwn fy mod yn bechadur yn dy erbyn, a fy mod yn haeddu cael fy nghosbi. Ond fe gymerodd Iesu Grist y gosb yr wyf fi yn ei haeddu fel y caf faddeuant. Rhoddaf fy ffydd ynot ti am waredigaeth. Diolch i ti am dy ras rhyfeddol a dy faddeuant – sef bywyd tragwyddol. Amen!”
Ydych chi wedi dewis Crist o ganlyniad i’r hyn a ddarllenoch yma? Os mai “ydw” yw eich ateb, cliciwch ar y botwm isod – “Rydw i wedi derbyn Crist heddiw”.
English
A ydych wedi derbyn maddeuant Duw? Sut allaf fi dderbyn maddeuant Duw?