settings icon
share icon
Cwestiwn

A oes bywyd ar ôl marwolaeth?

Ateb


Mae bodolaeth bywyd ar ôl marwolaeth yn gwestiwn sy’n berthnasol i bawb. Siarada Job ar ran bob un ohonom ni drwy ddweud, “Y mae pob un a anwyd o wraig yn fyr ei oes ac yn llawn helbul. Y mae fel blodeuyn yn tyfu ac yna’n gwywo; diflanna fel cysgod ac nid erys....Pan fydd meidrolyn farw, a gaiff ef fyw drachefn?” (Job 14:1-2, 14). Fel Job, mae pob un ohonom ni wedi cael ein herio gan y cwestiwn hwn. Beth yn union sy’n digwydd i ni ar ôl i ni farw? A ydym ni’n rhoi’r gorau i fodoli? Ai drws troi lle bo pobl yn gadael ac yn dychwelyd i'r ddaear er mwyn cyflawni mawredd personol yn y pen draw yw bywyd? A yw pawb yn mynd i’r un lle, ynteu a ydym ni’n mynd i wahanol lefydd? A oes yna nefoedd ac uffern mewn gwirionedd?

Dywed y Beibl wrthym, yn ogystal â bywyd ar ôl marwolaeth, fod bywyd tragwyddol mor ogoneddus, a bod “[p]ethau na welodd llygad, ac na chlywodd clust, ac na ddaeth i feddwl neb, y cwbl a ddarparodd Duw ar gyfer y rhai sy’n ei garu” (1 Corinthiaid 2:9). Daeth Iesu Grist, Duw yn y cnawd, i’r byd i roi’r rhodd hon o fywyd tragwyddol i ni. “Ond archollwyd ef am ein troseddau ni, a’i ddryllio am ein camweddau ni; roedd pris ein heddwch ni arno ef, a thrwy ei gleisiau ef y cawsom ni iachâd” (Eseia 53:5). Cymerodd Iesu’r gosb y mae pob un ohonom ni’n ei haeddu ac aberthodd ei fywyd i dalu'r gosb am ein pechod ni. Dridiau’n ddiweddarach, dangosodd ei hun yn drech na marwolaeth drwy godi o’r bedd. Fe arhosodd ar y ddaear am 40 o ddiwrnodau ac fe’i gwelwyd gan filoedd cyn iddo esgyn i’r nefoedd. Dywed Rhufeiniaid 4:25, “Cafodd ef ei draddodi i farwolaeth am ein camweddau, a’i gyfodi i’n cyfiawnhau ni.”

Mae atgyfodiad Iesu Grist yn ddigwyddiad sydd wedi ei gofnodi’n helaeth. Heriodd yr apostol Paul bobl i gwestiynu llygad-dystion ynglŷn â’i ddilysrwydd, ac nid oedd neb yn gallu herio ei wirionedd. Yr atgyfodiad yw conglfaen y ffydd Gristnogol. Oherwydd bod Iesu Grist wedi ei godi oddi wrth y meirw, gallwn fod yn ffyddiog y byddwn ninnau, hefyd, yn cael ein hatgyfodi. Atgyfodiad Iesu Grist yw'r prawf gorau posibl bod bywyd ar ôl marwolaeth. Dim ond y cyntaf, o gynhaeaf mawr o’r rhai a fydd yn cael eu hatgyfodi, oedd Iesu Grist. Daeth marwolaeth gorfforol drwy un dyn, Adda, ac mae pob un ohonom ni’n perthyn iddo. Ond bydd pawb sydd wedi cael ei fabwysiadu i mewn i deulu Duw drwy ffydd yn Iesu Grist yn cael bywyd newydd (1 Corinthiaid 15:20-22). Yn union fel y cododd Duw gorff Iesu, felly y bydd ein cyrff ninnau yn cael eu hatgyfodi pan fydd Iesu’n dychwelyd (1 Corinthiaid 6:14).

Er y byddwn i gyd yn cael ein hatgyfodi yn y pen draw, ni fydd pawb yn mynd i'r nefoedd. Mae’n rhaid i bawb wneud dewis yn y bywyd hwn, a bydd y dewis hwn yn pennu ein cyrchfan tragwyddol. Mae'r Beibl yn dweud y gosodwyd i ni farw unwaith yn unig, a bod barn yn dilyn hynny (Hebreaid 9:27). Bydd y rhai sydd wedi cael eu gwneud yn gyfiawn trwy ffydd yn Iesu Grist yn mynd i fywyd tragwyddol yn y nefoedd, ond bydd y rhai sy’n gwrthod Crist yn Waredwr yn cael eu hanfon i gosb dragwyddol yn uffern (Mathew 25:46). Fel y nefoedd, nid cyflwr bodolaeth yn unig yw uffern, ond lle go iawn. Lle ydyw, lle bydd yr anghyfiawn yn profi digofaint tragwyddol diddiwedd oddi wrth Dduw. Disgrifir uffern fel pwll y dyfnder (Datguddiad 9:1) a llyn tân, sy’n llosgi â sylffwr, lle bydd y trigolion yn cael eu poenydio ddydd a nos byth bythoedd (Datguddiad 20:10). Yn uffern, bydd wylo a rhincian dannedd, sy’n dynodi galar dwys a dicter (Mathew 13:42).

Nid yw Duw yn ymhyfrydu ym marwolaeth y drygionus, ond mae’n dymuno iddynt droi o’u ffyrdd drygionus fel y gallant fyw (Eseciel 33:11). Ond ni fydd ef yn ein gorfodi ni i ymddarostwng; os dewiswn ei wrthod ef, mae'n derbyn ein penderfyniad i fyw ar wahân iddo yn dragwyddol. Prawf yw bywyd ar y ddaear, a pharatoad ar gyfer yr hyn sydd i ddod. I gredinwyr, bywyd tragwyddol yn y nefoedd gyda Duw yw bywyd ar ôl marwolaeth. I anghredinwyr, tragwyddoldeb yn y llyn tân yw bywyd ar ôl marwolaeth. Sut y gallwn dderbyn bywyd tragwyddol ar ôl inni farw ac osgoi tragwyddoldeb yn y llyn tân? Dim ond un ffordd sydd yna — trwy ffydd a chan ymddiried yn Iesu Grist. Dywedodd Iesu, “Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd. Pwy bynnag sy’n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; a phob un sy’n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth...” (Ioan 11:25-26).

Mae’r rhodd o fywyd tragwyddol am ddim ar gael i bawb. “Pwy bynnag sy’n credu yn y Mab, y mae bywyd tragwyddol ganddo; pwy bynnag sy’n anufudd i’r Mab, ni wêl fywyd, ond y mae digofaint Duw yn aros arno” (Ioan 3:36). Ni fyddwn yn cael y cyfle i dderbyn rhodd Duw, sef iachawdwriaeth, ar ôl inni farw. Pennir ein cyrchfan tragwyddol yn ystod ein bywyd daearol wrth inni dderbyn neu wrthod Iesu Grist. “Dyma, yn awr, yr amser cymeradwy; dyma, yn awr, ddydd iachawdwriaeth” (2 Corinthiaid 6:2). Os ydym ni’n ymddiried ym marwolaeth Iesu Grist, yn daliad llawn dros ein pechodau yn erbyn Duw, yna byddwn yn siŵr o gael bywyd ystyrlon ar y ddaear yn ogystal â bywyd tragwyddol ym mhresenoldeb gogoneddus Iesu Grist ar ôl inni farw.

Ydych chi wedi dewis Crist o ganlyniad i’r hyn a ddarllenoch yma? Os mai “ydw” yw eich ateb, cliciwch ar y botwm isod – “Rydw i wedi derbyn Crist heddiw”.

English



Mynd yn ôl i'r hafan Gymraeg

A oes bywyd ar ôl marwolaeth?
© Copyright Got Questions Ministries