settings icon
share icon
Cwestiwn

Beth yw’r pedair cyfraith ysbrydol?

Ateb


Ffordd o rannu newyddion da yr iachawdwriaeth sydd ar gael drwy ffydd yn Iesu Grist yw’r Pedair Cyfraith Ysbrydol. Ffordd syml ydyw o drefnu'r wybodaeth bwysig yn yr efengyl yn bedwar pwynt.

Y cyntaf o’r Pedair Cyfraith Ysbrydol yw, "Mae Duw yn eich caru chi ac mae ganddo gynllun gwych ar gyfer eich bywyd". Dywed Ioan 3:16 wrthym, "Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol." Mae Ioan 10:10 yn rhoi’r rheswm i ni dros ddyfodiad Iesu, "Yr wyf wedi dod er mwyn i ddynion gael bywyd, a’i gael yn ei holl gyflawnder." Beth sy’n ein rhwystro ni rhag cariad Duw? Beth sy’n ein hatal ni rhag cael bywyd yn ei holl gyflawnder?

Yr ail o'r Pedair Cyfraith Ysbrydol yw, "Mae’r ddynoliaeth wedi cael ei staenio â phechod ac felly, fe gaiff ei gwahanu oddi wrth Dduw. O ganlyniad, ni allwn wybod beth yw cynllun bendigedig Duw ar gyfer ein bywyd." Mae Rhufeiniaid 3:23 yn cadarnhau’r wybodaeth hon, "Ie, pawb yn ddiwahaniaeth, oherwydd y maent oll wedi pechu, ac yn amddifad o ogoniant Duw." Mae Rhufeiniaid 6:23 yn rhoi canlyniadau pechod i ni, "Y mae pechod yn talu cyflog, sef marwolaeth". Creodd Duw ni i gael cymrodoriaeth gydag ef. Fodd bynnag, daeth y ddynoliaeth â phechod i’r byd, ac felly fe gaiff ei gwahanu oddi wrth Dduw. Rydym ni wedi difetha’r berthynas gydag ef yr oedd Duw yn bwriadu i ni ei chael. Beth yw’r ateb?

Y drydedd o’r Pedair Cyfraith Ysbrydol yw, "Iesu Grist yw unig ddarpariaeth Duw ar gyfer ein pechodau. Trwy Iesu Grist, gallwn gael ein pechodau wedi eu maddau ac adfer perthynas iawn gyda Duw." Dywed Rhufeiniaid 5:8 wrthym, "Ond prawf Duw o’r cariad sydd ganddo tuag atom ni yw bod Crist wedi marw drosom pan oeddem yn dal yn bechaduriaid." Mae 1 Corinthiaid 15:3-4 yn ein hysbysu o'r hyn y mae angen i ni ei wybod a’i gredu er mwyn cael ein hachub, "... i Grist farw dros ein pechodau ni, yn ôl yr Ysgrythurau; iddo gael ei gladdu, a’i gyfodi y trydydd dydd, yn ôl yr Ysgrythurau..." Mae Iesu ei hun yn datgan yn Ioan 14:6 mai ef yw’r unig ffordd i iachawdwriaeth, "Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi." Sut y gallaf dderbyn y rhodd ardderchog hon, sef iachawdwriaeth?

Y bedwaredd o'r Pedair Cyfraith Ysbrydol yw, "Mae’n rhaid i ni roi ein ffydd yn Iesu Grist fel Gwaredwr er mwyn derbyn y rhodd o iachawdwriaeth ac er mwyn gwybod beth yw cynllun bendigedig Duw ar gyfer ein bywyd." Disgrifia Ioan 1:12 hyn i ni, "Ond cynifer ag a’i derbyniodd, rhoes iddynt hwy, y rhai sy’n credu yn ei enw, hawl i ddod yn blant Duw". Dywed Actau 16:31 hyn yn glir iawn, "Cred yn yr Arglwydd Iesu, ac fe gei dy achub"! Gallwn gael ein hachub trwy ras yn unig, trwy ffydd yn unig, yn Iesu Grist yn unig (Effesiaid 2:8-9).

Os ydych chi’n dymuno ymddiried yn Iesu Grist i fod yn Waredwr i chi, dywedwch y geiriau canlynol wrth Dduw. Ni wnaiff dweud y geiriau hyn eich achub chi, ond fe wnaiff ymddiried yn Iesu Grist! Ffordd o fynegi i Dduw eich ffydd ynddo ef ac o ddiolch iddo am ddarparu iachawdwriaeth i chi yw’r weddi hon. "O Dduw, gwn fy mod i wedi pechu yn dy erbyn a’m bod i’n haeddu cael fy nghosbi. Ond cymerodd Iesu Grist y gosb yr wyf yn ei haeddu, fel y gallaf gael maddeuant drwy ffydd ynddo ef. Ymddiriedaf ynot ti am iachawdwriaeth. Diolch am dy ras bendigedig a’th faddeuant - sef y rhodd o fywyd tragwyddol! Amen!"

Ydych chi wedi dewis Crist o ganlyniad i’r hyn a ddarllenoch yma? Os mai “ydw” yw eich ateb, cliciwch ar y botwm isod – “Rydw i wedi derbyn Crist heddiw”.

English



Mynd yn ôl i'r hafan Gymraeg

Beth yw’r pedair cyfraith ysbrydol?
© Copyright Got Questions Ministries