settings icon
share icon
Cwestiwn

Sut y gallaf wybod beth yw ewyllys Duw ar gyfer fy mywyd?

Ateb


Mae’n bwysig gwybod beth yw ewyllys Duw. Dywedodd Iesu mai ei wir berthnasau yw’r rhai sy’n gwybod beth yw ewyllys y Tad ac yn gwneud hynny: “Pwy bynnag sy’n gwneud ewyllys Duw, y mae hwnnw’n frawd i mi, ac yn chwaer, ac yn fam.” (Marc 3:35). Yn ddameg y ddau fab, mae Iesu’n ceryddu’r prif offeiriaid a’r henuriaid am fethu â gwneud ewyllys y Tad; yn benodol, ni wnaethant newid eu meddwl a dod i gredu (Mathew 21:32). Ar ei symlaf, ewyllys Duw yw edifarhau am ein pechod ac ymddiried yn Iesu Grist. Os nad ydym wedi cymryd y cam cyntaf hwnnw, yna nid ydym wedi derbyn ewyllys Duw eto.

Ar ôl i ni dderbyn Iesu Grist trwy ffydd, cawn ein gwneud yn blant Duw (Ioan 1:12), ac mae ef yn dymuno ein harwain yn ei ffordd ef (Salmau 143:10). Nid yw Duw yn ceisio cuddio ei ewyllys oddi wrthym; mae ef yn dymuno ei datgelu i ni. Yn wir, mae ef eisoes wedi rhoi llawer iawn o gyfarwyddiadau i ni yn ei Air. Rydym i “r[oi ]diolch, oherwydd hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu i chwi.” (1 Thesaloniaid 5:18). Rydym i wneud gweithredoedd da (1 Pedr 2:15). Ac ewyllys Duw yw “ichwi gael eich sancteiddio: yr ydych i ymgadw oddi wrth anfoesoldeb rhywiol” (1 Thesaloniaid 4:3).

Mae ewyllys Duw yn wybodadwy ac yn brofadwy. Dywed Rhufeiniaid 12:2, "A pheidiwch â chydymffurfio â'r byd hwn, ond bydded ichwi gael eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl, er mwyn ichwi allu canfod beth yw ei ewyllys, beth sy’n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef.” Mae’r darn hwn yn rhoi trefn bwysig i ni: mae plentyn Duw yn gwrthod cydymffurfio â’r byd ac, yn lle hynny, mae’n caniatáu iddo gael ei drawsffurfio gan yr Ysbryd. Gan fod ei feddwl yn cael ei adnewyddu yn ôl pethau Duw, yna gall wybod ewyllys perffaith Duw.

Wrth i ni geisio ewyllys Duw, dylem wneud yn siŵr nad yw’r hyn yr ydym yn ei ystyried yn rhywbeth y mae’r Beibl yn ei wahardd. Er enghraifft, mae’r Beibl yn gwahardd dwyn; oherwydd bod Duw wedi siarad yn glir am y mater, rydym ni’n gwybod nad yw Duw yn dymuno i ni fod yn lladron banc — nid oes angen i ni weddïo am y peth hyd yn oed. Hefyd, dylem wneud yn siŵr bod yr hyn yr ydym yn ei ystyried yn gogoneddu Duw ac yn ein helpu ni a phobl eraill i dyfu’n ysbrydol.

Mae gwybod beth yw ewyllys Duw yn anodd ar brydiau am ei fod yn gofyn am amynedd. Mae’n naturiol inni ddymuno cael gwybod holl ewyllys Duw ar unwaith, ond nid dyna sut y mae ef yn gweithio fel arfer. Mae’n datgelu cam ar y tro i ni — ac mae pob symudiad yn golygu camu allan mewn ffydd — sy’n caniatáu i ni barhau i ymddiried ynddo ef. Y peth pwysig, wrth i ni aros am ragor o gyfarwyddyd, yw ein bod ni’n brysur yn gwneud y daioni yr ydym yn gwybod y dylem ei wneud (Iago 4:17).

Yn aml, rydym ni’n dymuno cael manylion penodol oddi wrth Dduw — ble i weithio, ble i fyw, pwy i’w briodi, pa gar i’w brynu, ac ati. Mae Duw yn caniatáu i ni wneud dewisiadau, ac, os ydym ni’n ostyngedig iddo ef, mae ganddo ffyrdd o atal dewisiadau anghywir (gweler Actau 16:6-7).

Po orau y byddwn yn dod i adnabod rhywun, po orau y byddwn yn dod yn gyfarwydd â’i ddymuniadau. Er enghraifft, gallai plentyn edrych ar draws stryd brysur ar bêl a sbonciodd i ffwrdd, ond nid yw’n rhedeg ar ei hôl, oherwydd ei fod yn gwybod “n[a] fyddai fy nhad yn dymuno i mi wneud hynny”. Does dim rhaid iddo ofyn i’w dad am gyngor ar gyfer pob sefyllfa arbennig; mae’n gwybod beth fyddai ei dad yn ei ddweud am ei fod yn adnabod ei dad. Mae’r un peth yn wir yn ein perthynas â Duw. Wrth i ni gerdded gyda’r Arglwydd, gan ufuddhau i’w air a chan ddibynnu ar ei Ysbryd, rydym ni’n canfod bod meddwl Crist gennym ni (1 Corinthiaid 2:16). Rydym ni’n ei adnabod ef, ac mae hynny’n ein helpu ni i wybod beth yw ei ewyllys ef. Rydym ni’n canfod arweiniad Duw ar gael yn rhwydd. “Y mae cyfiawnder y cywir yn ei gadw ar y ffordd union, ond cwympa’r drygionus trwy ei ddrygioni.” (Diarhebion 11:5).

Os ydym ni’n cerdded yn agos gyda’r Arglwydd ac yn wir ddymuno ei ewyllys ar gyfer ein bywydau, bydd Duw yn rhoi ei ddymuniadau yn ein calonnau. Dymuno ewyllys Duw, ac nid ein hewyllys ein hunain sy’n allweddol. “Ymhyfryda yn yr ARGLWYDD, a rhydd iti ddeisyfiad dy galon” (Salmau 37:4).

English



Mynd yn ôl i'r hafan Gymraeg

Sut y gallaf wybod beth yw ewyllys Duw ar gyfer fy mywyd?
© Copyright Got Questions Ministries