settings icon
share icon
Cwestiwn

A yw iachawdwriaeth trwy ffydd yn unig, ynteu drwy ffydd a gweithredoedd?

Ateb


Mae’n bosibl mai hwn yw’r cwestiwn pwysicaf yn holl ddiwinyddiaeth y ffydd Gristnogol. Y cwestiwn hwn yw’r rheswm dros y Diwygiad Protestannaidd, sef y rhaniad rhwng yr eglwysi Protestannaidd a’r Eglwys Babyddol. Mae’r cwestiwn hwn yn wahaniaeth allweddol rhwng Cristnogaeth feiblaidd a’r rhan fwyaf o’r cyltiau “Cristnogol”. A yw iachawdwriaeth trwy ffydd yn unig, ynteu drwy ffydd a gweithredoedd? A gaf i fy achub drwy gredu yn Iesu, neu a oes rhaid i mi gredu yn Iesu a gwneud pethau penodedig?

Caiff y cwestiwn o ffydd yn unig ynteu ffydd a gweithredoedd ei wneud yn anodd gan rai darnau o’r Beibl y mae’n anodd eu cysoni. Cymharer Rhufeiniaid 3:28, 5:1 a Galatiaid 3:24 ag Iago 2:24. Mae rhai yn gweld gwahaniaeth rhwng Paul (iachawdwriaeth trwy ffydd yn unig) ac Iago (iachawdwriaeth trwy ffydd a gweithredoedd). Dywed Paul yn bendant mai drwy ffydd yn unig y ceir cyfiawnhad (Effesiaid 2:8-9), ac fe ymddengys fod Iago’n dweud mai drwy ffydd a gweithredoedd y ceir cyfiawnhad. Atebir y broblem ymddangosiadol hon drwy archwilio beth yn union y mae Iago yn siarad amdano. Mae Iago’n gwrthbrofi’r gred y gall unigolyn fod â ffydd heb gynhyrchu unrhyw weithredoedd da (Iago 2:17-18). Mae Iago’n pwysleisio’r pwynt y bydd ffydd go iawn yn Iesu Grist yn cynhyrchu bywyd sydd wedi newid a gweithredoedd da (Iago 2:20-26). Nid yw Iago’n dweud mai trwy ffydd a gweithredoedd y ceir cyfiawnhad, ond yn hytrach y bydd unigolyn sydd wedi ei gyfiawnhau o ddifrif drwy ffydd â gweithredoedd da yn ei fywyd. Os yw rhywun yn honni ei fod yn grediniwr, ond nid oes ganddo unrhyw weithredoedd da yn ei fywyd, yna mae’n debygol nad oes ganddo ffydd go iawn yn Iesu Grist (Iago 2:14, 17, 20, 26).

Dywed Paul yr un peth yn ei waith llenyddol ef. Rhestrir y ffrwythau da y dylai crediniwr eu cael yn eu bywyd yn Galatiaid 5:22-23. Yn syth ar ôl dweud wrthym mai trwy ffydd ac nid gweithredoedd (Effesiaid 2:8-9) y cawn ein hachub, mae Paul yn dweud wrthym ein bod wedi ein creu i wneud gweithredoedd da (Effesiaid 2:10). Mae Paul yn disgwyl bywyd sydd wedi newid cymaint ag y mae Iago: “Felly, os yw rhywun yng Nghrist, y mae’n greadigaeth newydd; aeth yr hen heibio, y mae’r newydd yma “ (2 Corinthiaid 5:17). Nid yw Iago a Paul yn anghytuno yn eu dysgeidiaeth ynghylch iachawdwriaeth. Maent yn ymdrin â’r un pwnc o wahanol safbwyntiau. Yn syml, fe bwysleisiodd Paul mai trwy ffydd yn unig y ceir cyfiawnhad a phwysleisiodd Iago y ffaith fod ffydd go iawn yn Iesu Grist yn cynhyrchu gweithredoedd da.

English



Mynd yn ôl i'r hafan Gymraeg

A yw iachawdwriaeth trwy ffydd yn unig, ynteu drwy ffydd a gweithredoedd?
© Copyright Got Questions Ministries