A yw dwyfoldeb Crist yn Feiblaidd?


Cwestiwn: A yw dwyfoldeb Crist yn Feiblaidd?

Ateb:
Yn ogystal â honiadau penodol Iesu amdano ef ei hun, roedd ei ddisgyblion hefyd yn cydnabod dwyfoldeb Iesu Grist. Fe wnaethant honni bod gan Iesu yr hawl i faddau pechodau—rhywbeth na all neb ond Duw ei wneud—gan mai Duw sy’n cael ei dramgwyddo gan bechod (Actau 5:31; Colosiaid 3:13; Salmau 130:4; Jeremeia 31:34). Mewn cysylltiad agos â’r honiad olaf, dywedir hefyd mai Iesu yw’r un a fydd yn “[b]arnu’r byw a’r meirw” (2 Timotheus 4:1). Gwaeddodd Thomas yn uchel ar Iesu, “Fy Arglwydd a’m Duw!” (Ioan 20:28). Mae Paul yn galw Iesu yn “D[d]uw mawr” ac yn “[W]aredwr” (Titus 2:13) ac yn nodi, cyn iddo ymgnawdoli, fod Iesu’n bodoli ar “ffurf Duw” (Philipiaid 2:5-8). Dywed Duw’r Tad am Iesu: “Y mae dy orsedd di, O Dduw, yn dragwyddol” (Hebreaid 1:8). Dywed Ioan “Yn y dechreuad yr oedd y Gair; yr oedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair [Iesu]” (Ioan 1:1). Mae’r enghreifftiau o Ysgrythurau sy’n ein dysgu am ddwyfoldeb Iesu Grist yn niferus (gweler Datguddiad 1:17, 2:8, 22:13; 1 Corinthiaid 10:4; 1 Pedr 2:6-8; Salmau 18:2, 95:1; 1 Pedr 5:4; Hebreaid 13:20), ond mae hyd yn oed un o’r rhain yn ddigon i ddangos yr ystyriwyd Iesu Grist yn Dduw gan ei ddilynwyr.

Mae Iesu hefyd yn cael teitlau sy’n unigryw i Iafe (enw ffurfiol Duw) yn yr Hen Destament. Defnyddir teitl yr Hen Destament, “gwaredwr” (Salmau 130:7; Hosea 13:14), ar gyfer Iesu yn y Testament Newydd (Titus 2:13; Datguddiad 5:9). Gelwir Iesu yn Immanuel—”Duw gyda ni”—yn Mathew 1. Yn Sechareia 12:10, Iafe sy’n dweud, “edrychant ar yr un a drywanwyd ganddynt”. Ond mae’r Testament Newydd yn cymhwyso hyn at groeshoeliad Iesu (Ioan 19:37; Datguddiad 1:7). Os mai Iafe yw’r un a drywenir ac a edrychir arno, ac os mai Iesu oedd yr un a drywanwyd ac a edrychwyd arno, yna Iesu yw Iafe. Mae Paul yn dehongli yn Philipiaid 2:10-11 fod Eseia 45:22-23 yn berthnasol i Iesu. Hefyd, defnyddir enw Iesu wrth ochr enw Duw yn y weddi “Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist” (Galatiaid 1:3; Effesiaid 1:2). Byddai hyn yn gabledd pe na bai Iesu Grist yn ddwyfol. Mae enw Iesu yn ymddangos gyda Duw yng ngorchymyn Iesu i fedyddio “yn enw[unigol]’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân” (Mathew 28:19; gweler hefyd 2 Corinthiaid 13:14).

Priodolir gweithredoedd na ellir eu cyflawni ond gan Dduw i Iesu. Yn ogystal â chodi’r meirw (Ioan 5:21, 11:38-44) a maddau pechodau (Actau 5:31, 13:38), fe greodd Iesu’r bydysawd, gan ei gynnal (Ioan 1:2; Colosiaid 1:16-17). Daw hyn hyd yn oed yn gliriach pan fo rhywun yn ystyried fod Iafe wedi dweud ei fod ar ei ben ei hun yn ystod y greadigaeth (Eseia 44:24). Hefyd, mae Iesu Grist yn meddu ar briodoleddau na all ond duwdod eu cael: tragwyddoldeb (Ioan 8:58), hollbresenoldeb (Mathew 18:20, 28:20), hollwybodolrwydd (Mathew 16:21), a hollalluogrwydd (Ioan 11:38-44).

Nawr, un peth yw honni i fod yn Dduw neu dwyllo rhywun i gredu fod hynny’n wir, a rhywbeth arall yn llwyr yw profi bod hynny’n wir. Cynigiodd Iesu Grist lawer o wyrthiau i brofi ei honiad o fod yn ddwyfol. Mae ychydig yn unig o wyrthiau Iesu yn cynnwys troi dŵr yn win (Ioan 2:7), cerdded ar ddŵr (Mathew 14:25), lluosi gwrthrychau ffisegol (Ioan 6:11), iacháu’r deillion (Ioan 9:7), y cloff (Marc 2:3), a’r cleifion (Mathew 9:35; Marc 1:40-42), a hyd yn oed codi pobl oddi wrth y meirw (Ioan 11:43-44; Luc 7:11-15; Marc 5:35). Hefyd, fe gododd Iesu Grist ei hun oddi wrth y meirw. Ymhell o’r hyn a elwir yn farw ac atgyfodi ymhlith duwiau mytholeg baganaidd, ni honnir dim byd tebyg i’r atgyfodiad o ddifrif gan grefyddau eraill, ac nid oes gan unrhyw honiad arall gymaint o gadarnhad y tu hwnt i’r Ysgrythur.

Ceir o leiaf deuddeg o ffeithiau hanesyddol am Iesu y bydd hyd yn oed ysgolheigion beirniadol nad ydynt yn Gristnogol yn eu derbyn:

1. Bu farw Iesu pan y’i croeshoeliwyd ef.
2. Fe’i claddwyd.
3. Fe achosodd ei farwolaeth i’r disgyblion wangalonni a cholli gobaith.
4. Darganfuwyd bedd Iesu yn wag ychydig ddyddiau yn ddiweddarach (neu fe honnwyd iddo gael ei ddarganfod).
5. Roedd y disgyblion yn credu eu bod nhw wedi profi ymddangosiadau yr Iesu atgyfodedig.
6. Ar ôl hyn, trawsffurfiwyd y disgyblion o amheuwyr i mewn i gredinwyr hyderus.
7. Y neges hon oedd canolbwynt pregethau yn yr Eglwys gynnar.
8. Pregethwyd y neges hon yn Jerwsalem.
9. O ganlyniad i’r pregethau hyn, ganwyd yr Eglwys ac fe dyfodd.
10. Disodlwyd y Saboth (dydd Sadwrn) gan ddiwrnod yr Atgyfodiad, dydd Sul, fel y prif ddiwrnod ar gyfer addoli.
11. Cafodd Iago, amheuwr, ei argyhoeddi pan gredai ef hefyd ei fod yn gweld yr Iesu atgyfodedig.
12. Cafodd Paul, gelyn i Gristnogaeth, ei argyhoeddi gan brofiad y credai mai ymddangosiad o’r Iesu atgyfodedig ydoedd.

Hyd yn oed pe bai rhywun yn gwrthwynebu’r rhestr benodol hon, dim ond ychydig ohonynt sydd eu hangen i brofi’r atgyfodiad ac i sefydlu’r efengyl: Marwolaeth, claddedigaeth, atgyfodiad, ac ymddangosiadau Iesu (1 Corinthiaid 15:1-5). Er ei bod yn bosibl bod rhai damcaniaethau sy’n esbonio un neu ddau o’r ffeithiau uchod, dim ond yr atgyfodiad sy’n egluro ac yn rhoi cyfrif am bob un ohonynt. Mae critigyddion yn cyfaddef bod y disgyblion yn honni eu bod nhw wedi gweld yr Iesu atgyfodedig. Ni all na chelwyddau na rhithwelediadau drawsffurfio pobl y ffordd y gwnaeth yr atgyfodiad. Yn gyntaf, beth a fyddai ganddynt i’w ennill? Nid oedd Cristnogaeth yn boblogaidd ac, yn sicr, nid oedd yn ennill unrhyw arian iddynt. Yn ail, nid yw celwyddwyr yn gwneud merthyron da. Nid oes esboniad gwell am barodrwydd y disgyblion i farw marwolaethau dychrynllyd dros eu ffydd na’r atgyfodiad. Oes, mae llawer o bobl yn marw dros gelwyddau y maent yn credu sy’n wir, ond nid yw pobl yn marw dros yr hyn y maent yn gwybod sy’n anwir.

I gloi, honnodd Iesu Grist mai Iafe ydoedd, ei fod yn ddwyfol (nid “duw” yn unig, ond y gwir Dduw); roedd ei ddilynwyr (Iddewon a fyddai wedi arswydo rhag eilunaddoliaeth) yn ei gredu ef, gan gyfeirio ato fel Duw. Profodd Iesu Grist ei honiadau o fod yn ddwyfol drwy wyrthiau, gan gynnwys yr atgyfodiad a newidiodd y byd. Ni all unrhyw ragdybiaeth arall esbonio’r ffeithiau hyn. Ydy, mae dwyfoldeb Crist yn feiblaidd.

English
Mynd yn ôl i'r hafan Gymraeg
A yw dwyfoldeb Crist yn Feiblaidd?