settings icon
share icon
Cwestiwn

Beth yw'r grefydd iawn i mi?

Ateb


Mae bwytai bwyd cyflym yn ein denu ni trwy ein galluogi i archebu ein bwyd yn union fel yr ydym am ei gael. Mae rhai siopau coffi yn brolio dros gant o wahanol flasau a mathau o goffi. Hyd yn oed pan fyddwn yn prynu tai a cheir, gallwn edrych am un sydd â’r holl opsiynau a’r nodweddion yr ydym yn ei ddymuno. Nid ydym bellach yn byw ym myd siocled, fanila a mefus. Dewis yw popeth! Gallwch gael gwybodaeth am unrhyw beth yr ydych eisiau yn ôl eich hoffterau personol a’ch anghenion eich hunain.

Felly beth am grefydd sy'n hollol iawn i chi? Beth am grefydd sy’n rhydd o euogrwydd, sydd ddim yn gwneud unrhyw ofynion, ac sydd ddim yn cael ei llyffetheirio gyda llawer o reolau trafferthus sy’n dweud wrthym i wneud hyn ac i beidio gwneud peth arall? Mae’r grefydd hon allan yno, yn union fel yr wyf wedi ei ddisgrifio. Ond yw crefydd yn rhywbeth i’w dewis fel eich hoff flas hufen iâ?

Mae yna lawer o leisiau yn cystadlu am ein sylw, felly pam dylai unrhyw un ystyried Iesu uwchben Muhammad neu Confucius, Bwddha, neu Charles Taze Russell, neu Joseph Smith? Wedi'r cyfan, onid yw pob ffordd yn arwain i'r Nefoedd? Onid yw pob crefydd yr un fath yn y bôn? Y gwir yw nad yw pob crefydd yn arwain i'r Nefoedd, yn union fel nad yw pob ffordd yn arwain i Indiana.

Siarada Iesu yn unig gydag awdurdod Duw oherwydd mai Iesu yn unig sydd wedi gorchfygu marwolaeth. Mae Muhammad, Confucius, ac eraill yn pydru yn eu beddau hyd heddiw. Ond, gyda’i bŵer ei hun, cerddodd Iesu o’r bedd dri diwrnod ar ôl iddo farw ar groes Rufeinig greulon. Mae unrhyw un sydd â grym dros farwolaeth yn haeddu ein sylw. Mae unrhyw un sydd â grym dros farwolaeth haeddu cael ei glywed.

Y Mae’r dystiolaeth sy'n cefnogi'r atgyfodiad Iesu yn aruthrol. Yn gyntaf, yr oedd dros bum cant o lygad-dystion i’r Crist atgyfodedig! Mae hynny'n lawer o lygad-dystion. Ni all pum cant o leisiau gael eu hanwybyddu. Hefyd, ceir mater y bedd gwag. Gallai gelynion Iesu fod wedi dod â’r siarad ynglŷn â’r atgyfodiad i ben drwy gynhyrchu ei gorff marw yn pydru, ond nid oedd unrhyw gorff marw iddynt i’w gynhyrchu! Yr oedd y bedd yn wag! A all y disgyblion fod wedi dwyn ei gorff? Prin. Er mwyn atal fath achlysur, yr oedd bedd yr Iesu yn cael ei warchod yn drwm gan filwyr arfog. O ystyried bod ei ddilynwyr agosaf wedi ffoi mewn ofn ar ei arestiad a’i groeshoeliad, mae'n annhebygol iawn y byddai criw o bysgotwyr ofnus wedi mynd benben yn erbyn milwyr hyfforddedig proffesiynol. Ni fyddant ychwaith wedi aberthu eu bywydau a dod yn ferthyron-fel y gwnaeth y rhan fwyaf ohonynt-i ffugiwr. Y ffaith seml yw na all atgyfodiad Iesu gael ei egluro i ffwrdd!

Unwaith eto, mae unrhyw un sydd â grym dros farwolaeth yn haeddu cael ei glywed. Profodd Iesu ei bŵer dros farwolaeth, felly, mae angen i ni glywed beth y mae'n ei ddweud. Mae Iesu yn honni mai efe yw’r unig ffordd i iachawdwriaeth (Ioan 14:6). Nid ffordd yw Iesu; nid yw un o'r nifer o ffyrdd yw Iesu. Iesu yw y ffordd.

Ac mae’r un Iesu’n dweud, "Dewch ataf fi, bawb sy’n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi." (Mathew 11:28). Yr ydym yn byw mewn byd caled ac mae bywyd yn anodd. Mae'r rhan fwyaf ohonom wedi’n cleisio, a’n creithio. Ydych chi’n cytuno? Felly, beth ydych chi eisiau? Adferiad neu grefydd yn unig? Ydych eisiau Gwaredwr byw neu un o’r llawer "proffwydi" sy’n farw? Ydych eisiau perthynas ystyrlon neu ddefodau gweigion? Nid yw Iesu yn un o amryw o ddewisiadau-Iesu yw y dewis!

Iesu yw'r "grefydd" iawn os ydych yn chwilio am faddeuant (Actau 10:43). Iesu yw'r "grefydd" iawn os ydych yn chwilio am berthynas ystyrlon gyda Duw (Ioan 10:10). Iesu yw'r "grefydd" iawn os ydych yn chwilio am gartref tragwyddol yn y Nefoedd (Ioan 3:16). Rhowch eich ffydd yn Iesu Grist fel eich Gwaredwr, ni fyddwch yn difaru! Ymddiriwch ynddo ef am faddeuant dros eich pechodau; ni chewch eich siomi.

Os hoffech gael "perthynas iawn" gyda Duw, dyma weddi sampl. Cofiwch na fydd adrodd y weddi hon nac unrhyw weddi arall yn eich achub. Dim ond trwy roi ffydd yng Nghrist y cewch waredigaeth o’ch pechodau. Mae dweud y weddi hon yn ffordd i ddatgan i Dduw eich bod yn ymddiried yn Iesu Grist am eich iachawdwriaeth. "O Dduw, gwn fy mod wedi pechu yn dy erbyn, a fy mod yn haeddu cael fy nghosbi. Ond cymerodd Iesu Grist y gosb yr wyf fi yn ei haeddu fel, trwy ffydd ynddo ef, gallwn i gael maddeuant. Rhoddaf fy ffydd ynot ti am iachawdwriaeth. Diolch i ti am dy ras rhyfeddol a dy faddeuant - sef bywyd tragwyddol. Amen!

Ydych chi wedi dewis Crist o ganlyniad i’r hyn a ddarllenoch yma? Os mai “ydw” yw eich ateb, cliciwch ar y botwm isod – “Rydw i wedi derbyn Crist heddiw”.

English



Mynd yn ôl i'r hafan Gymraeg

Beth yw'r grefydd iawn i mi?
© Copyright Got Questions Ministries