settings icon
share icon
Cwestiwn

Beth yw gweddi'r pechadur?

Ateb


Gweddi y mae unigolyn yn ei gweddïo i Dduw pan ei fod yn deall ei fod yn bechadur a bod arno angen Gwaredwr, yw gweddi’r pechadur. Ni fydd dweud gweddi’r pechadur yn cyflawni dim ar ei ben ei hun. Dim ond cynrychioli’r hyn y mae rhywun yn ei wybod, ei ddeall, ac yn ei gredu am ei bechodau a’i angen am iachawdwriaeth y mae gweddi’r pechadur mewn gwirionedd.

Yr agwedd gyntaf ar weddi’r pechadur yw deall ein bod ni i gyd yn bechaduriaid. Mae Rhufeiniaid 3:10 yn datgan, “Fel y mae’n ysgrifenedig: ‘Nid oes neb cyfiawn, nac oes un’”. Mae’r Beibl yn ei gwneud yn glir ein bod ni i gyd wedi pechu. Pechaduriaid ydym ni i gyd sydd angen trugaredd a maddeuant oddi wrth Dduw (Titus 3:5-7). Oherwydd ein pechod, rydym ni’n haeddu cosb dragwyddol (Mathew 25:46). Apêl am ras yn lle dyfarniad yw gweddi’r pechadur. Cais am drugaredd yn lle digofaint ydyw.

Yr ail agwedd ar weddi’r pechadur yw gwybod yr hyn y mae Duw wedi ei wneud i unioni ein cyflwr coll a phechadurus. Daeth Duw yn gnawd a daeth yn fod dynol ym mherson Iesu Grist (Ioan 1:1,14). Dysgodd Iesu y gwir i ni am Dduw, gan fyw bywyd hollol gyfiawn a dibechod (Ioan 8:46; 2 Corinthiaid 5:21). Yna bu farw Iesu ar y groes yn ein lle ni, gan gymryd y gosb yr ydym ninnau’n ei haeddu (Rhufeiniaid 5:8). Cododd Iesu oddi wrth y meirw i brofi ei fuddugoliaeth dros bechod, marwolaeth, ac uffern (Colosiaid 2:15; 1 Corinthiaid pennod 15). Oherwydd hyn oll, gallwn gael ein pechodau wedi eu maddau a’r addewid o gartref tragwyddol yn y nefoedd - os rhown ein ffydd yn Iesu Grist. Y cwbl y mae’n rhaid i ni ei wneud yw credu ei fod ef wedi marw yn ein lle ni a chodi o'r meirw (Rhufeiniaid 10:9-10). Gallwn gael ein hachub trwy ras yn unig, trwy ffydd yn unig, yn Iesu Grist yn unig. Mae Effesiaid 2:8 yn datgan, "Trwy ras yr ydych wedi eich achub, trwy ffydd. Nid eich gwaith chwi yw hyn; rhodd Duw ydyw".

Ffordd o ddatgan i Dduw eich bod yn dibynnu ar Iesu Grist i fod yn Waredwr i chi yw dweud gweddi’r pechadur. Nid oes unrhyw eiriau "hud" sy'n arwain at iachawdwriaeth. Dim ond ffydd ym marwolaeth ac atgyfodiad Iesu a all ein hachub ni. Os ydych chi’n deall eich bod chi’n bechadur a bod angen iachawdwriaeth arnoch drwy Iesu Grist, dyma weddi pechadur y gallwch ei gweddïo i Dduw: "O Dduw, gwn fy mod i’n bechadur. Gwn fy mod i’n haeddu canlyniadau fy mhechodau. Fodd bynnag, rwyf yn ymddiried yn Iesu Grist i fod yn Waredwr i mi. Credaf fod ei farwolaeth a’i atgyfodiad wedi darparu maddeuant i mi. Rwyf yn ymddiried yn Iesu, ac Iesu’n unig, i fod Arglwydd ac yn Waredwr personol i mi. Diolch Arglwydd, am fy achub i ac am faddau i mi! Amen!"

Ydych chi wedi dewis Crist o ganlyniad i’r hyn a ddarllenoch yma? Os mai “ydw” yw eich ateb, cliciwch ar y botwm isod – “Rydw i wedi derbyn Crist heddiw”.

English



Mynd yn ôl i'r hafan Gymraeg

Beth yw gweddi'r pechadur?
© Copyright Got Questions Ministries