settings icon
share icon
Cwestiwn

A oes rhaid i Gristnogion ufuddhau i gyfraith yr Hen Destament?

Ateb


Yr allwedd i ddeall y mater hwn yw gwybod mai i genedl Israel, ac nid Cristnogion, y rhoddwyd cyfraith yr Hen Destament. Nod rhai o’r cyfreithiau oedd datgelu i’r Israeliaid sut i ufuddhau a phlesio Duw (er enghraifft, y deg Gorchymyn). Nod rhai o’r cyfreithiau oedd dangos i’r Israeliaid sut i addoli Duw a gwneud iawn am bechod (y system aberthol). Nod rhai o’r cyfreithiau oedd gwneud yr Israeliaid yn wahanol i wledydd eraill (y rheolau ynglŷn â bwyd a dillad). Nid yw’r un o gyfreithiau’r Hen Destament yn orfodol ar Gristnogion heddiw. Pan fu farw Iesu ar y groes, rhoddodd ddiwedd ar gyfraith yr Hen Destament (Rhufeiniaid 10:4; Galatiaid 3:23–25; Effesiaid 2:15).

Yn lle cyfraith yr Hen Destament, rydym yn ddarostyngedig i gyfraith Iesu Grist (Galatiaid 6:2), sy’n ein gorchymyn i garu’r Arglwydd ein Duw â’n holl galon ac â’n holl enaid ac â’n holl feddwl ac i garu ein cymydog fel ni ein hunain (Mathew 22:37-39). Os byddwn yn ufuddhau i’r ddau orchymyn hynny, byddwn yn cyflawni popeth y mae Iesu Grist yn ei ofyn ohonom ni: “Ar y ddau orchymyn hyn y mae’r holl Gyfraith a’r proffwydi yn dibynnu” (Mathew 22:40). Nawr, nid yw hyn yn golygu bod cyfraith yr Hen Destament yn amherthnasol heddiw. Mae llawer o’r gorchmynion yng nghyfraith yr Hen Destament yn dod o dan fantell “caru Duw” a “charu eich cymydog”. Gall cyfraith yr Hen Destament fod yn esiampl dda ar gyfer gwybod sut i garu Duw a gwybod beth y mae caru eich cymydog yn ei olygu. Ar yr un pryd, Byddai’n anghywir dweud bod cyfraith yr Hen Destament yn berthnasol i Gristnogion heddiw. Uned yw cyfraith yr Hen Destament (Iago 2:10). Mae’r cyfan yn berthnasol, neu nid yw dim ohono’n berthnasol. Os yw Iesu Grist wedi cyflawni peth ohoni, megis y system aberthol, yna mae ef wedi cyflawni’r gyfraith gyfan.

“Oherwydd dyma yw caru Duw: bod inni gadw ei orchmynion. Ac nid yw ei orchmynion yn feichus” (1 Ioan 5:3). Yn y bôn, crynodeb o holl gyfraith yr Hen Destament oedd y Deg Gorchymyn. Caiff naw o’r Deg Gorchymyn eu hailadrodd yn glir yn y Testament Newydd (pob un heblaw’r gorchymyn i gadw dydd y Saboth). Yn amlwg, os ydym ni’n caru Duw, ni fyddwn yn addoli gau dduwiau neu’n ymgrymu gerbron eilunod. Os ydym ni’n caru ein cymdogion, ni fyddwn yn eu llofruddio nhw, yn dweud celwydd wrthynt, yn godinebu yn eu herbyn nhw, nac yn chwenychu yr hyn sy’n perthyn iddynt. Nod cyfraith yr Hen Destament yw euogfarnu pobl o’n hanallu i gadw’r gyfraith a dangos bod arnom angen Iesu Grist i fod yn Waredwr inni (Rhufeiniaid 7:7-9; Galatiaid 3:24). Nid oedd Duw yn bwriadu i gyfraith yr Hen Destament fod yn gyfraith gyffredinol i bawb drwy gydol pob oes. Rydym i garu Duw a charu ein cymdogion. Os byddwn yn ufuddhau i’r ddau orchymyn hynny, byddwn yn cynnal popeth y mae Duw yn ei ofyn ohonom ni.

English



Mynd yn ôl i'r hafan Gymraeg

A oes rhaid i Gristnogion ufuddhau i gyfraith yr Hen Destament?
© Copyright Got Questions Ministries