settings icon
share icon
Cwestiwn

Beth yw Cristnogaeth a beth mae Cristnogion yn ei gredu?

Ateb


Crynhoir credoau craidd Cristnogaeth yn 1 Corinthiaid 15:1-4. Bu farw Iesu dros ein pechodau, claddwyd ef ac fe’i hatgyfodwyd ef, a thrwy hynny mae’n cynnig iachawdwriaeth i bawb a fydd yn ei dderbyn ef mewn ffydd. Yn unigryw o’i chymharu â phob ffydd arall, mae Cristnogaeth yn rhoi mwy o bwyslais ar berthynas nag arferion crefyddol. Yn lle cadw at restr o bethau i’w gwneud a phethau na ddylid eu gwneud, nod y Cristion yw meithrin perthynas dda â Duw. Gwneir y berthynas honno’n bosibl oherwydd gwaith Iesu Grist a gweinidogaeth yr Ysbryd Glân.

Y tu hwnt i’r credoau craidd hyn, ceir llawer o eitemau eraill sydd, neu a ddylai, ddangos beth yw Cristnogaeth a’r hyn y mae Cristnogaeth yn ei dysgu. Mae Cristnogion yn credu mai’r Beibl yw Gair ysbrydoledig Duw a anadlwyd ganddo ef, ac mai dysgeidiaeth y Beibl yw’r awdurdod terfynol ym mhob mater sy’n ymwneud â ffydd ac arferion crefyddol (2 Timotheus 3:16; 2 Pedr 1:20-21). Mae Cristnogion yn credu mewn un Duw sy’n bodoli mewn tri pherson—y Tad, y Mab (Iesu Grist), a’r Ysbryd Glân.

Mae Cristnogion yn credu bod y ddynolryw wedi ei chreu’n benodol i gael perthynas â Duw, ond bod pechod yn gwahanu pob dyn oddi wrth Dduw (Rhufeiniaid 3:23; 5:12). Mae Cristnogaeth yn dysgu bod Iesu Grist wedi cerdded ar y ddaear hon, ei fod yn gyfan gwbl Dduw, ac eto’n gyfan gwbl ddyn (Philipiaid 2:6-11), a’i fod wedi marw ar y groes. Mae Cristnogion yn credu, ar ôl ei farwolaeth, fod Iesu Grist wedi ei gladdu, ei fod wedi atgyfodi, a’i fod yn byw bellach ar ddeheulaw’r Tad, gan eiriol dros y credinwyr am byth (Hebreaid 7:25). Mae Cristnogaeth yn datgan bod marwolaeth Iesu ar y groes yn ddigonol i dalu’r ddyled yn llwyr am y pechod sy’n ddyledus gan bob dyn ac mai hyn sy’n adfer y berthynas doredig rhwng Duw a’r ddynolryw (Hebreaid 9:11-14; 10:10; Rhufeiniaid 5:8; 6:23).

Mae Cristnogaeth yn dysgu, er mwyn inni gael ein hachub a chael mynediad i’r nefoedd ar ôl ein marwolaeth, fod rhaid inni roi ein ffydd yn llwyr yng ngwaith gorffenedig Iesu Grist ar y groes. Os ydym ni’n credu bod Iesu Grist wedi marw drosom a thalu pris ein pechodau, ac atgyfodi, yna rydym wedi cael ein hachub. Nid oes dim y gall neb ei wneud i ennill iachawdwriaeth. Ni allwn fod yn “ddigon da” i blesio Duw ar ein pennau ein hunain, oherwydd ein bod ni i gyd yn bechaduriaid (Eseia 53:6; 64:6-7). Nid oes dim mwy i’w wneud, oherwydd bod Iesu Grist wedi gwneud y gwaith i gyd! Pan yr oedd ar y groes, dywedodd Iesu, “Gorffennwyd” (Ioan 19:30), sy’n golygu bod y gwaith o ad-dalu wedi ei gwblhau.

Yn ôl Cristnogaeth, rhyddid oddi wrth yr hen natur bechadurus a rhyddid i ddilyn perthynas iawn â Duw yw iachawdwriaeth. Roeddem yn gaethion i bechod gynt, ond bellach rydym ni’n gaethion i Iesu Grist (Rhufeiniaid 6:15-22). Cyn belled â bod credinwyr yn byw ar y ddaear hon yn eu cyrff pechadurus, byddant yn cymryd rhan mewn brwydr gyson yn erbyn pechod. Fodd bynnag, gall Cristnogion gael buddugoliaeth yn y frwydr yn erbyn pechod drwy astudio a chymhwyso Gair Duw yn eu bywydau a chael eu rheoli gan yr Ysbryd Glân — hynny yw, ildio i’r Ysbryd wrth iddo ein harwain ni mewn amgylchiadau bob dydd.

Felly, er bod llawer o systemau crefyddol yn ei gwneud yn ofynnol i rywun wneud neu beidio â gwneud pethau penodol, mae Cristnogaeth yn ymwneud â chredu bod Iesu Grist wedi marw ar y groes er mwyn talu am ein pechodau ac atgyfodi. Mae dyled ein pechod wedi ei thalu a gallwn gael cymdeithas â Duw. Gallwn gael buddugoliaeth dros ein natur bechadurus a cherdded mewn cymdeithas â Duw, ac mewn ufudd-dod iddo. Dyma yw gwir Gristnogaeth Feiblaidd.

English



Mynd yn ôl i'r hafan Gymraeg

Beth yw Cristnogaeth a beth mae Cristnogion yn ei gredu?
© Copyright Got Questions Ministries