Pwy yr Iesu Grist?




Cwestiwn: Pwy yr Iesu Grist?

Ateb:
Pwy yw Iesu Grist? Yn wahanol i’r cwestiwn, “A yw Duw yn bodoli?”, nid yw llawer wedi amau bodolaeth Iesu Grist. Caiff ei dderbyn yn gyffredinol bod dyn o’r enw Iesu wedi cerdded ar y ddaear yn Iesrael bron i 2000 o flynyddoedd yn ôl. Mae’r ddadl yn dechrau unwaith i ni ddechrau trafod hunaniaeth yr Iesu. Mae bron pob un o’r prif grefyddau yn dysgu mai proffwyd oedd yr Iesu, neu athro da, neu dyn duwiol. Y problem yw fod y Beibl yn dweud wrthym fod yr Iesu’n llawer mwy na proffwyd, athro da a dyn duwiol.

Yn ei lyfr, Mere Christianity, ysgrifennodd C.S. Lewis hyn: "Rwyf yn ceisio atal rhywun yn erbyn dweud y pethau dwl y mae pobl yn dweud amdano (Iesu Grist): 'Rwy'n barod i dderbyn yr Iesu fel athro moesol, ond dydw i ddim yn ei dderbyn fel Duw.' Dyma'r union beth na ddylwn fod yn ei ddweud. Fuasai dyn a oedd ond yn ddyn a ddywesasai'r un fath o bethau â'r Iesu ddim yn athro moesol. Mi fuasai'n ddyn gwallgof -- ar yr un lefel a dyn sy'n dweud ei fod yn ŵy wedi berwy -- neu mi fuasai'r un peth â'r diafol o uffern. Mae'n rhaid gwneud penderfyniad. Naill ai yr oedd, ac yn dal i fod, yn Fab Duw, neu yn wallgof, neu'n rhywbeth waeth... Mi allwch gau ei ben fel dyn dwl, mi allwch boeri arno, a'i ladd fel ysbryd drwb; neu fe allwch blygu wrth ei draed a'i alwn'n Arglwydd a'n Dduw. Ond gadewch i ni beidio â meddwl am unrhyw ddwli nawddoglyd am iddo fod yn ddyn, yn athro. Ni adawodd y posibilrwydd i ni feddwl am y fath beth. Nid oedd ganddo fwriad wneud y fath beth."

Beth oedd yr Iesu’n ei honni? Peth sydd gan y Beibl i ddweud amdano? Yn gyntaf, ystyriwn eiriau’r Iesu yn Ioan 10:30, “Dw i a'r Tad yn un.” I ddechrau efallai ni ellir ystyried hyn fel Iesu’n honni mai Duw ydyw. Ond, sylwch ar ymateb yr Iddewon i’r hyn a ddywedodd, “Dyn ni ddim yn dy labyddio am wneud unrhyw beth da," atebodd yr arweinwyr Iddewig, "ond am gablu! Am dy fod ti sydd ond yn ddynol, yn honni mai Duw wyt ti.” (Ioan 10:33). Fe ddeallodd yr Ieddewon eiriau’r Iesu fel ymhoniad mai Duw ydoedd. Yn yr adnodau sy’n dilyn, sylwch nad yw Iesu’n cywiro’r Iddewon drwy ddweud “nid Duw ydwyf.” Mae hyn yn awgrymu bod yr Iesu yn dweud o ddifrif mai Duw ydoedd, gan ddatgan “Dw i a'r Tad yn un.” (Ioan 10:30). Mae enghraifft arall yn Ioan 8:58. Mae’r Iesu yn datgan, " Credwch chi fi – dw i’n bodoli ers cyn i Abraham gael ei eni!". Unwaith eto, mae’r Iddewon yn ymateb trwy godi cerrig a cheisio ei labyddio (Ioan 8:59). Paham y byddai’r Iddewon am labyddio’r Iesu os nad oedd wedi dweud rhywbeth yr oeddent yn credu i fod yn gabledd, sef honni mai Duw ydoedd?

Dywed Ioan 1:1 wrthym mai “Duw oedd y Gair.” Dywed Ioan 1:14 wrthym mai “Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed” Mae hyn yn dangos yn glir mae Duw yn y cnawd yw’r Iesu. Mae’r disgybl Tomos, gan gyfeirio at yr Iesu, yn datgan, “Fy Arglwydd a'm Duw!” (Ioan 20:28). Nid yw’r Iesu yn ei gywiro. Mae’r Apostol Paul yn ei ddisgrifio fel “…Iesu Grist, ein Duw mawr a'n Hachubwr ni” (Titus 2:13). Dywed yr Apostol Pedr ar yr un pryd, “…Iesu Grist, ein Duw a’n hachubwr ni” (2 Peter 1:1). Mae Duw y Tad yn dyst i gwir hunaniaeth yr Iesu hefyd, “Ond wrth y Mab, Dy orseddfainc di, O Dduw, sydd yn oes oesoedd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy deyrnas di.” Mae proffwydi’r Hen Destament am Grist hefyd yn datgan ei dduwyfoldeb, “Canys bachgen a aned i ni, mab a roddwyd i ni, a bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef: a gelwir ei enw ef, Rhyfeddol, Cynghorwr, y Duw cadarn, Tad tragwyddoldeb, Tywysog tangnefedd.”

Felly, fel y dadleuodd C.S. Lewis, nid yw credu yn yr Iesu fel athro da yn opsiwn. Mae’n glir fod yr Iesu wedi honni mai Duw ydoedd. Os nad Duw yw’r Iesu, felly y mae’n gelwyddgi, nid proffwyd, athro da, na dyn dwyfol. Wrth geisio taflu ymaith eiriau Iesu, mae “ysgolheigion” modern yn honni bod y “gwir Iesu” heb ddweud llawer o’r pethau sy’n ymddangos yn y Beibl. Sut y medrwn ni ddadlau â Gair Duw am hyr hyn a ddywedodd, a’r hyn na ddywedodd yr Iesu? Sut y medrai “ysgolhaig” sy’n byw 2,000 o flynyddoedd ar ol amser yr Iesu gael gwell olwg ar yr hyn a ddywedodd a’i hyn na ddywedodd y sawl a fu’n fyw gyda’r Iesu, y sawl a oedd yn ei wasanaethu a’r sawl a gafodd eu dysgu gan yr Iesu ei hunan (Ioan 14:26).

Paham y mae’r cwestiwn am hunaniaeth yr Iesu mor bwysig? Paham ei fod yn bwysig os mai Duw yw’r Iesu neu beidio. Y rheswm pwysycaf yw mae’n rhaid mai Iesu yw Duw, gan os nad Duw oedd yr Iesu ni fyddai ei farwolaeth yn ddigonol i dalu am bechodau’r byd i gyd (1 Ioan 2:2). Dim ond Duw allai dalu’r fath gosb ddifrifol (Rhufeiniaid 5:8; 2 Corinthiaid 5:21). Mae’n rhaid mai Duw oedd yr Iesu fel ei fod yn medru talu ein dyledion. Roedd yn rhaid i’r Iesu fod yn ddyn fel ei fod yn medru marw. Yr unig ffordd i waredigraeth yw trwy ffydd yn Iesu Grist! Dwyfoldeb yr Iesu yw’r rheswm paham mai efe yw’r unig ffordd i waredigaeth. Ei ddwyfoldeb oedd y rheswm iddo ddatgan, “Fi ydy'r ffordd ... fi ydy’r un gwir, a'r bywyd. Does neb yn gallu dod i berthynas gyda Duw y Tad ond trwof fi.” (Ioan 14:6).



Mynd yn ôl i'r hafan Gymraeg



Pwy yr Iesu Grist?