settings icon
share icon
Cwestiwn

Beth y mae’n ei olygu i dderbyn yr Iesu fel eich Gwaredwr personol?

Ateb


Ydych chi wedi derbyn Iesu Grist fel eich Gwaredwr bersonol cyn nawr? Cyn i chi atab, gadewch ni mi esbonio’r cwestiwn. I ddeall y cwestiwn yn glir, mae’n rhaid yn gyntaf i chi ddeall “Iesu Grist”, “personol” a “gwaredwr”.

Pwy yw Iesu Grist? Mae llawer o bobl yn cydnabod bod Iesu Grist yn ddyn da, athro arbennig, neu hyd yn oed proffwyd Duw. Mae’r pethau hyn yn sicr yn wir am yr Iesu, ond nid yw’n diffinio yn wir pwy ydyw. Dywed y Beibl mai Duw yn y cnawd yw’r Iesu, Duw a ddaeth yn ddyn (gweler Ioan 1:1,14). Daeth Duw i’r byd i’n dysgu, i’n hiachau, i’n cywiro, i’n maddau, ac i farw drosom. Duw yw Iesu Grist, y Creawdwr, yr Arglwydd hollallugog. Ydych chi wedi derbyn yr Iesu yma?

Beth yw Gwaredwr, a paham y mae angen Gwaredwr arnaf? Dywed y Beibl wrthym ein bod ni’n bechaduriaud, a’n bod ni wedi gwneud pethau drwg (Rhufeiniaid 3:10-18). O ganlyniad i’n pechodau, rydym yn haeddu cael ein dirmygu a’n barnu gan Dduw. Yr unig gosb gyfiawn am bechodau a wnaed yn erbyn Duw tragwyddol yw cosb dragwyddol (Rhufeiniaid 6:23; Datguddiad 20:11-15). Dyna paham y mae angen Gwaredwr arnom.

Daeth Iesu Grist i’r by a marw yn ein lle ni. Roedd marwolaeth yr Iesu, fel Duw yn y cnawd, yn offrwm tragwyddol am ein pechodau (2 Corinthiaid 5:21). Bu farw’r Iesu i dalu am ein pechodau (Rhufeiniaid 5:8). Fe wnaeth yr Iesu hyn fel nad oes rhaid i ni wneud fally. Trwy atgyfodiad yr Iesu, profwyd bod ei farwolaeth yn ddigonol i dalu am ein pechodau. Dyna paham yr Iesu yw ein hunig Waredwr (Ioan 14:5, Actau 4:12). A ydych chi’n ymddiried yn yr Iesu fel eich gwaredwr?

A yw’r Iesu yn Waredwr “personol” i chi? Mae llawer yn gweld Cristnogaeth fel mynd i’r eglwys, cyflawni defodau, a pheidio â phechu. Nid Cristnogaeth yw hyn. Mae gwir Gristnogaeth yn berthynas personol â Iesu Grist. Mae derbyn yr Iesu fel eich Gwaredwr personol yn golygu rhoi eich ffudd personol ynddo ac ymddiried ynddo. Nid chaiff neb eu gwaredu drwy ffudd eraill. Ni chaiff neb eu maddau drwy wneud rhyw weithredoedd arbennig. Yr unig ffordd i waredigaeth yw i dderbyn Iesu grist yn bersonol fel eich Gwaredwr, gan ymddiried yn ei farwolaeth a dalodd am eich pechodau, ac yn ei atgyfodiad fel ffordd sicr i fywyd tragwyddol (Ioan 3:16). Ydy’r Iesu’n waredwr personol i chi?

Os ydych am dderbyn yr Iesu fel eich Gwaredwr personol, yna adroddwch y geiriau yma i Dduw. Cofiwch, ni fydd adrodd y weddi hon, nac unrhyw weddi yn eich gwaredi. Dim ond trwy rhoi ffudd yng Nghrist y cewch waredigaeth. Mae’r weddi hon yn ffordd seml i ddatgan i Dduw eich ffudd ynddo ac i ddiolch iddo am gael eich gwaredi. "O Dduw, Gwn fy mod yn bechadur yn dy erbyn, a fy mod yn haeddu cael fy nghosbi. Ond fe gymerodd Iesu Grist y gosb yr wyf fi yn ei haeddu fel y caf faddeuant. Rhoddaf fy ffudd ynot ti am waredigaeth. Diolch i ti am dy ras rhyfeddol a dy faddeuant – sef bywyd tragwyddol. Amen!”

Ydych chi wedi dewis Crist o ganlyniad i’r hyn a ddarllenoch yma? Os mai “ydw” yw eich ateb, cliciwch ar y botwm isod – “Rydw i wedi derbyn Crist heddiw”.

English



Mynd yn ôl i'r hafan Gymraeg

Beth y mae’n ei olygu i dderbyn yr Iesu fel eich Gwaredwr personol?
© Copyright Got Questions Ministries